#

Y Pwyllgor Deisebau | 11 Rhagfyr 2018
 Petitions Committee | 11 December 2018
 
 
 ,Deiseb: Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel 
 
  

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-851

Teitl y ddeiseb: Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r cyfyngiad amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel.  Ar hyn o bryd, mae terfyn amser o awr. Dyma’r unig gilfan â’r math hwn o gyfyngiad ar yr A40 yng Nghymru. Prin y gwelir cerbyd yno gan y byddai mynd i’r dref am gwpanaid o de yn mynd heibio’r terfyn amser.

 

Y cefndir

Y rhwydwaith cefnffyrdd

Yng Nghymru, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd, ac awdurdodau lleol yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer ffyrdd lleol. Mae’r A40 yn brif gefnffordd sy’n cysylltu Llundain ag Abergwaun ac mae’n rhan o rwydwaith cefnffyrdd Cymru. Felly, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhan o’r ffordd sydd yng Nghymru.

Er mai Gweinidogion Cymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol dros y rhwydwaith cefnffyrdd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu dau asiant cefnffyrdd yng Nghymru sydd â chyfrifoldeb dros eu gweithredu, eu cynnal a’u cadw a gwneud mân welliannau i’r rhwydwaith o ddydd i ddydd: 

§    Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA); ac

§    Asiant Cefnffyrdd De Cymru. (SWTRA) 

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TRO) yn darparu’r pwerau cyfreithiol i wahardd neu gyfyngu ar draffig at ddibenion rheoli traffig amrywiol a gallant fod yn rhai parhaol neu’n rhai dros dro. Gellir gwneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig gan yr awdurdod traffig perthnasol ar gyfer y ffordd o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (Deddf 1984). Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod traffig perthnasol ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru.

Mae Adran 2 o Ddeddf 1984 yn nodi’r hyn y gall Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ddarparu ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys (pwyslais ychwanegol):

(a) ei gwneud yn ofynnol i draffig cerbydol, neu draffig cerbydol o unrhyw ddosbarth a bennir yn y gorchymyn, fynd ymlaen i gyfeiriad penodol neu yn ei wahardd rhag mynd ymlaen;

(b) pennu’r rhan o’r ffordd sydd i’w defnyddio gan draffig o’r fath i fynd ymlaen mewn cyfeiriad penodol;

(c) gwahardd neu gyfyngu ar gerbydau sy’n aros, neu lwytho a dadlwytho cerbydau;

(ch) gwahardd defnyddio ffyrdd gan draffig sy’n mynd yn ei flaen; neu

(d) wahardd neu gyfyngu ar oddiweddyd.

Parcio yng Nghrucywel

Fel yr adroddwyd ym mis Ionawr 2014 wrth Bwyllgor Sir Frycheiniog (sydd bellach wedi’i ddileu) Cyngor Sir Powys (PDF, 68KB), cyfarfu’r awdurdod lleol â NMWTRA ynghylch parcio drwy’r dydd a masnachu yn y cilfannau ar gefnffordd yr A40 yng Nghrucywel. Cytunwyd i gyflwyno hyn a hyn o gyfyngiadau aros, a gwahardd cyfyngiadau aros ar unrhyw adeg yn y cilfannau hyn.

Gofynnodd NMWTRA i’r awdurdod lleol gynnal y broses o weithredu’r Gorchymyn. Cytunodd yr awdurdod lleol i gynnwys y cynigion hyn fel rhan o adolygiad ehangach o barcio yng Nghrughywel a gynlluniwyd ar gyfer yn ddiweddarach yn 2014, ac a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd yr adolygiad ehangach hwn yn cynnwys parcio ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, y mae’r awdurdod lleol yn awdurdod priffyrdd ar ei gyfer. 

Fel yr adroddwyd yn y cyfryngau, cafwyd gwrthwynebiadau lleol i’r cyfyngiadau a gynigiwyd ar gyfer y cilfannau ac i’r cynigion ehangach o ran parcio yng Nghrucywel. Ni aethpwyd ymlaen â llawer o’r cynigion mewn perthynas â’r rhwydwaith ffyrdd lleol o ganlyniad i’r gwrthwynebiadau hyn.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

... although I appreciate the concerns raised regarding lack of parking provision in the town, trunk road laybys are not provided for use as car parks.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ymlaen i nodi mai’r rheswm dros gyflwyno’r cyfyngiad amser yn y gilfan hon oedd oherwydd bod masnachwyr yn ei gamddefnyddio a bod y gilfan yn cael ei defnyddio ar gyfer parcio hirdymor. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei fod yn deall bod y deisebydd wedi cytuno y dylent gysylltu â’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y rhwydwaith ffyrdd lleol, gan gynnwys parcio ar y stryd, ynghylch materion sy’n ymwneud â pharcio yng nghanol tref Crughywel.